Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Tachwedd 2016
Amser: 14.00 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3903
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Jeremy Parr, Cyfoeth Naturiol Cymru Jean-Francois Dulong, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Swyddfa
Archwilio |
Huw Vaughan Thomas Andy Phillips |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Richard Johnson (Dirprwy Glerc) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (935KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
2.1 Cytunwyd ar y cofnodion a nodwyd y papurau.
2.2 Cytunodd yr Aelodau y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch y bwriad o gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn mynd i'r afael â nifer o'r argymhellion a gafodd eu gwrthod yn Adolygiad Mark. Yn sgil Argymhelliad 6, bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at AGIC yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd ar bractisau meddygon teulu yn ystod cyfnod penodol er mwyn i'r Pwyllgor allu penderfynu a yw'r gyllid a roddir yn ddigonol.
3.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chytunwyd eu bod yn fodlon â'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y materion, ac na ofynnir am ddiweddariadau pellach. Fodd bynnag, gwnaeth yr Aelodau gais bod y Pwyllgor yn derbyn copi o Adroddiad y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus ar Dryloywder Tâl uwch aelodau staff, pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni
4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jeremy Parr, Rheolwr Llifogydd a Risg Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, a
Jean-Francois Dulong, Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafodrheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd yr Aelodau y drafft o'r flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.
7.2 Cytunodd yr Aelodau ar amlinelliad y flaenraglen waith, a chytunwyd i ymweld â Senedd yr Alban fel rhan o'r ymchwiliad i drefn reoleiddio cymdeithasau tai.
8.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft, a gofynnwyd am nifer o argymhellion.
8.2 Bydd adroddiad drafft diwygiedig yn cael ei anfon at yr Aelodau i gytuno arno.